Nicole Cooke
Nicole Cooke | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1983 Abertawe |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Taldra | 167 centimetr |
Pwysau | 58 cilogram |
Gwobr/au | MBE |
Gwefan | http://www.nicolecooke.com/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Astana-Acca Due O, Garmin-Cervélo, Vision 1 Racing, UAE Team ADQ, Estado de México-Faren, Aušra Gruodis-Safi, Pragma Deia Colnago, Astana-Acca Due O, Team Halfords Bikehut |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Seiclwraig rasio proffesiynol o Gymru yw Nicole Cooke MBE (ganed 13 Ebrill 1983). Mae hi'n byw yn Lugano, y Swistir.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Dyddiau cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Cooke yn Abertawe a magwyd hi yn Y Wig, Bro Morgannwg. Mynychodd Ysgol Gyfun Brynteg ar Heol Eweni ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle roedd hi flwyddyn yn iau na Gavin Henson. Dechreuodd Cooke seiclo yn ifanc a chafodd gryn lwyddiant wrth reidio yn y rasus ieuenctid. Teithiodd dramor i'r Iseldiroedd yn aml ers oedd yn ddeuddeg oed, gan gystadlu yn erbyn ei chyd-gystadleuwyr o'r Wlad Belg, yr Almaen, a'r Iseldiroedd. Drwy hyn enillodd brofiad o gystadlu ar safon uwch y cyfandir.
Yn un ar bymtheg oed, enillodd Cooke ei theitl cenedlaethol hŷn cyntaf gan ymgymhwyso i gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd 2000. Ond cafwyd dadl rhwng Cooke a'r awdurdodau, a oedd yn mynnu nad oedd hi yn ddigon hen i gymryd rhan. Fe gafodd Cooke gefnogaeth gan Shane Sutton, hyfforddwr seiclo Cymru ar y pryd, a thynnwyd sylw at oedran ifanc chwaraewyr mewn nifer o chwaraeon Olympiadd eraill megis gymnasteg a nofio, ond gwrthodwyd yr awdurdodau gyfaddawdu.[2][3] Yn 2001 derbyniodd Cooke wobr y Bidlake Memorial Prize, a roddir ar sail perfformiadau diarhebol neu gyfraniad i welliant seiclo. Enillodd bedwar Teitl Iau y Byd, gan gynnwys un ym Mhortiwgal yn 2001.
Ymlaen i lwyfan y byd
[golygu | golygu cod]Cystadleuodd yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002, ac enillodd y ras ffordd i ferched gan ddiweddu gyda sbrint syfrdanol. Fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru.
Yn 2003 enillodd Cooke ras La Flèche Wallonne Féminine yng Ngwlad Belg. Roedd hi yn y drydedd safle ym Mhencampwriaeth Ras Ffordd y Byd. Hi oedd Pencampwraig Cwpan y Byd Rasio Ffordd i Ferched yr UCI yn 2003, yr ieuengaf erioed a'r Brydeinwraig gyntaf i wneud hynny. Dioddefodd ddamwain ym mis Hydref, ac yn sgil hyn gorfu iddi gael llawdriniaeth ar ei [[pen-glin|phen-glin.
Y flwyddyn ganlynol enillodd y Giro d'Italia Femminine: y person ifengaf erioed i wneud hynny. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2004 daeth yn 5ed yn y Ras Ffordd i Ferched ac yn 19eg yn y Treial Amser i Ferched.
Eto yn 2005, cymerodd y safle cyntaf yn La Flèche Wallonne Féminine a daeth yn ail ym Mhencampwriaeth Ras Ffordd y Byd. Ym mis Rhagfyr 2005, yn ystod ei pharatoadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2006, torrodd bont ei hysgwydd wrth gystadlu ar y felodrom yn ystod Cymal Manceinion o Gwpan y Byd; er hyn, enillodd y fedal efydd yn Ras Ffordd y Gemau.
Gyrfa proffesiynol
[golygu | golygu cod]2006
[golygu | golygu cod]Trodd Cooke yn broffesiynol gyda'r tîm Ausra Gruodis-Safi, a dysgodd Eidaleg wrth fyw a rasio yn yr Eidal. Yn niwedd 2005, arwyddodd i'r tîm Univega a oedd wedi'i leoli yn y Swistir.
Ar 1 Awst 2006, cyhoeddwyd mai hi oedd seiclwraig ffordd rhif un y byd UCI ac ar 3 Medi 2006 enillodd Gwpan y Byd Seiclo Ffordd yr UCI 2006, gyda ras mewn llaw. Hi enillodd y Grande Boucle 2006 - fersiwn merched o'r Tour de France. Yn ystod 2006 enillodd hefyd Bencampwriaeth Rasio Ffordd Prydain, La Flèche Wallonne, La Coupe du Monde Cycliste Féminine de Montréal, a Threial Amser y Magali Pache, Ras Cwpan y Byd Castilla y Leon a Ras Cymalau'r Thüringen-Rundfahrt. Ym mis Medi 2006 enillodd y drydedd safle unwaith eto ym Mhencampwriaeth Ras Ffordd y Byd yr UCI.
2007
[golygu | golygu cod]Yn 2007, enillodd ras Cwpan y Byd, Geelong a'r Ronde van Vlaanderen, Cylchdaith Fflandrys i Ferched, sef y ddwy ras gyntaf yng Nghwpan y Byd Seiclo Ffordd yr UCI 2007. Enillodd hefyd y Trofeo Alfredo Binda ac ail gymal y GP Costa Etrusca. Hi eto oedd enillydd y Grande Boucle. Ar noswyl cymal olaf Cwpan y Byd, Rasio Ffordd, roedd Nicole yn arwain y gystadleuaeth o 80 o bwyntiau. Roedd wedi bod yn cael trafferthion â'i phen-glin a gohiriodd lawdriniaeth arni hyd 17 Medi er mwyn gallu cystadlu yn y cymal olaf.[4] Rhwystrodd ei phen-glin hi rhag cystadlu'n gryf a gorffennodd yn y 34ain safle yn y ras. Rhoddodd hyn y fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd i Marianne Vos, 70 o bwyntiau o flaen Nicole, a ddaeth yn ail.
2008
[golygu | golygu cod]Mae Nicole yn arwain tîm Halfords Bikehut yn 2008, ac yn defnyddio beiciau Boardman. Cafodd ei buddugoliaeth gyntaf yn 2008 yn Tour de l'Aude, gan ennill y cymal cyntaf.[5]
Cynrychiolodd Brydain yng Ngemau Olympaidd 2008 yn Beijing, gan gipio'r fedal aur yn y Ras Ffordd i Ferched a rhoi i Gymru ei medal aur gyntaf yn y gemau ers 36 mlynedd. Hon oedd y 200fed medal aur i'w hennill dros Brydain yn hanes y Gemau Olympaidd.[6] Hon oedd y fedal aur gyntaf iw ennill gan Gymry ers i Richard Meade ennill yn farchogaeth yng Ngemau Olympaidd 1972.
Enillodd Nicole y Giro del Trentino ym mis Mehefin 2009, ac ar y 27 Mehefin enillodd y Bencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain am y degfed tro.[7]
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]- 1999
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- (Enillodd y ras hon er ei bod dal yn y categori Iau, a hithau'r ifengaf erioed i wneud hyn.)
- 2000
- 1af Pencampwriaeth y Byd, Ras Ffordd Merched Iau, Plouay
- 2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Cyclo Cross
- 3ydd Pencampwriaeth y Byd, Beicio Mynydd Merched Iau, Lisbon
- 5ed Grand Prix de Quebec
- 2001
- 1af Pencampwriaeth y Byd, Ras Ffordd i Ferched Iau, Lisbon
- 1af Pencampwriaeth y Byd, Treial Amser i Ferched Iau, Lisbon
- 1af Pencampwriaeth y Byd, Beicio Mynydd i Ferched Iau, Colorado
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Cyclo Cross (Yr enillydd ifengaf erioed)
- 1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Grand Prix de Quebec
- 1af Crys y Mynyddoedd, Grand Prix de Quebec
- 2002
- 1af Ras Ffordd i Ferched, Gemau'r Gymanwlad, Manceinion
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af 12fed Trofeo Citta di Rosignano, Yr Eidal
- 1af 4ydd Memorial Pasquale di Carlo, Yr Eidal
- 1af Crys y Mynyddoedd, Trofeo Banca Populaire, Yr Eidal
- 1af Cymal 2, Trofeo Banca Populaire, Yr Eidal
- 1af Ronde van Westerbeek, Holland
- 1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Giro della Toscana
- 1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Giro del Trentino
- 3ydd Veulta Castilla-y-Leon, Sbaen
- 3ydd Tour Midi Pyrenees, Ffrainc
- 1af Cymal 2, Tour Midi Pyrenees, Ffrainc
- 1af Crys y Mynyddoedd, Tour Midi Pyrenees, Ffrainc
- 2003
- Enillydd Cwpan y Byd Ras Ffordd i Ferched yr UCI
- 1af Ras Cwpan y Byd, Amstel Gold
- 1af Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne Féminine
- 1af Ras Cwpan y Byd, GP Plouay
- 1af GP San Francisco
- 1af Cymal 5 Cylchdaith Holland i Ferched
- 1af Crys y Mynyddoedd, Vuelta Castilla y Leon
- 1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Trofeo Banco Populare Alto Adige
- 1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Giro Della Toscana
- 1af Cam 3a Giro Della Toscana
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 3ydd Pencampwriaeth y Byd, Ras Ffordd i Ferched, Hamilton
- 2004
- 1af Giro d'Italia Femminine (Giro Donne)
- 1af Cymal 8, Giro d'Italia Femminine (Giro Donne)
- 1af GP San Francisco/T Mobile International
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af Gwobr Reidiwr Ifanc Gorau, Giro Della Toscana
- 1af Crys Pwyntiau, Giro Della Toscana
- 5ed Ras Ffordd i Ferched, Gemau Olympaidd yr Haf
- 19eg Treial Amser i Ferched, Gemau Olympaidd yr Haf
- 2005
- 1af Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne Féminine
- 1af GP Wallonie, Gwlad Belg
- 1af Trofeo Alfredo Binda, Cittiglio, Yr Eidal
- 1af 15fed Trofeo Citta di Rosignano, Yr Eidal
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af Cymal 5 Cylchdaith Holland i Ferched
- 1af Cymal 1a Giro Della Toscana
- 2il Pencampwriaeth y Byd Ras Ffordd i Ferched
- 2006
- 1af Rhengoedd y Byd, UCI
- 1af Cwpan y Byd Ras Ffordd i Ferched yr UCI
- 1af Ras Cwpan y Byd, Castilla y Leon
- 1af Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne Féminine
- 1af Ras Cwpan y Byd, Treial Amser Tîm yr Awr Aur
- 2il Ras Cwpan y Byd, La Coupe du Monde Montréal
- 2il Ras Cwpan y Byd, Open de Suède Vargarda
- 3ydd Ras Cwpan y Byd, GP de Plouay
- 4ydd Ras Cwpan y Byd, Cylchdaith Rotterdam
- 5ed Ras Cwpan y Byd, Berner-Rundfahrt
- 5ed Ras Cwpan y Byd, Rund um die Nürnberger Altstadt
- 6ed Ras Cwpan y Byd, Ronde van Vlaanderen
- 8fed Ras Cwpan y Byd, Geelong
- 1af Grande Boucle Feminine
- 1af Cymal 1, Grande Boucle Feminine
- 1af Cymal 2, Grande Boucle Feminine
- 1af Thuringen Rundfahrt (Cylchdaith yr Almaen i Ferched)
- 1af Cymal 2, Thuringen Rundfahrt
- 1af Cymal 4a, Thuringen Rundfahrt
- 1af Cymal 4b, Thuringen Rundfahrt
- 1af Cymal 5, Thuringen Rundfahrt
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af Treial Amser Magali Pache
- 1af Crys y Mynyddoedd, Cylchdaith Seland Newydd
- 1af Gwobr Beicwraig Ifanc Gorau, Giro del Trentino
- 3ydd Ras Ffordd Merched, Gemau'r Gymanwlad, Melbourne
- 3ydd Pencampwriaeth y Byd Ras Ffordd i Ferched
- 2007
- 1af Rhengoedd y Byd, UCI
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af Grande Boucle Feminine
- 1af Cylchdaith Geelong
- 1af Cylchdaith Alfredo Binda
- 1af GP Costa Etrusca
- 2il Cwpan y Byd Ras Ffordd i Ferched yr UCI
- 1af Ras Cwpan y Byd, Ronde van Vlannderen
- 1af Ras Cwpan y Byd, Geelong
- 2il Ras Cwpan y Byd, GP de Plouay
- 2il Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne
- 4ydd Ras Cwpan y Byd, Berner-Rundfahrt
- 5ed Ras Cwpan y Byd, La Coupe du Monde Montréal
- 7fed Ras Cwpan y Byd, Ronde van Drenthe
- 12fed Ras Cwpan y Byd, Open de Suède Vargarda
- 34ain Ras Cwpan y Byd, Rund um die Nürnberger Altstadt
- 4ydd Treial Amser Magali Pache
- 2008
- 1af Ras ffordd, Gemau Olympaidd yr Haf 2008
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
- 4ydd Tour de l'Aude
- 1af Cymal 1, Tour de l'Aude
- 10fed Cymal 4, Tour de l'Aude
- 7fed Cymal 6, Tour de l'Aude
- 3ydd Cymal 9, Tour de l'Aude
- 2009
- 4ydd Iurreta-Emakumeen Bira
- 1af Cymal 2
- 1af Cymal 3b
- 1af Giro del Trentino
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
Rhagflaenydd: Megan Hughes |
Pencampwraig Cenedlaethol Ras Ffordd i Ferched 1999 |
Olynydd: Ceris Gilfillan |
Rhagflaenydd: Ceris Gilfillan |
Pencampwraig Cenedlaethol Ras Ffordd i Ferched 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007 a 2008 |
Olynydd: I ddod |
Rhagflaenydd: Mark Hughes |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 2003 |
Olynydd: Tanni Grey-Thompson |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Vale of Glamorgan with Nicole Cooke[dolen farw] Cycling Weekly 21 Medi 2007
- ↑ Andrew Longmore (30 Rhagfyr 2001). Cycling: Tenacity drives on a world-beater. The Independent.
- ↑ William Fotheringham (15 Awst 2008). Olympics: Cooke: 'I couldn't sleep lying next to that gold medal'. guardian.co.uk.
- ↑ Vos pips Cooke to World Cup crown BBC 16 Medi 2007
- ↑ 24th Tour de l'Aude - 2.2. Cycling News (25 Mai 2008).
- ↑ (Saesneg) Erthygl a fideo o'r sbrint am yr Aur, Gemau Olympaidd 2008. BBC Sport (10 Awst 2008).
- ↑ Cooke wins unprecedented tenth title. Cycling Weekly (2009-06-27).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Nicole Cooke - Gwefan Swyddogol
- (Saesneg) Nicole Cooke - Seiclwraig
- (Saesneg) Cyfweliad gyda Nicole Cooke
- (Saesneg) Seiclwraig Gymreig Nicole Cooke yn hyderus o welliant Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback
- Aelodau Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig
- Pobl o Gymru â medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad
- Pobl o Gymru â medal aur yn y Gemau Olympaidd
- Pobl o Gymru yn y Gemau Olympaidd
- Enillwyr Gwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig BBC Cymru
- Genedigaethau 1983
- Merched yr 20fed ganrif o Gymru
- Merched yr 21ain ganrif o Gymru
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Brynteg
- Pobl o Abertawe
- Pobl o Fro Morgannwg
- Seiclwyr o Gymru