Madam Wen
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | William David Owen |
Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab |
Dyddiad cyhoeddi | 1925 |
Genre | nofel hanesyddol |
Lleoliad cyhoeddi | Wrecsam |
- Erthygl am y nofel yw hon. Gweler hefyd Madam Wen (ffilm).
Nofel yn Gymraeg gan W. D. Owen yw Madam Wen. Cyhoeddodd y nofel hanes hon yn wreiddiol rhwng 1914 a 1917 fel cyfres yn Y Genedl Gymreig, newyddiadur Cymraeg a gyhoeddid yng Nghaernarfon. Roedd rhaid aros tan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cyn ei chyhoeddi fel llyfr, yn 1925 gan Hughes a'i Fab, Wrecsam. Cyhoeddwyd y llyfr o'r newydd yn 2024 gan Melin Bapur.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ymddengys fod W. D. Owen wedi tynnu ar draddodiadau lleol yn ardal Bodedern yn Ynys Môn, lle ganed yr awdur, i lunio'r rhamant hon a leolir ar yr ynys ganol y 18g. Yn ôl traddodiad yr ardal, roedd ogof Madam Wen mewn hafn ger glan Llyn Traffwll.[2]
Mae copi digidol o'r llyfr ar gael ar wefan Cynnydd Llythrennedd Y Llyfrgell Genedlaethol Archifwyd 2021-11-30 yn y Peiriant Wayback
Ffilm
[golygu | golygu cod]Rhyddhawyd y ffilm Madam Wen, sy'n seiliedig ar y nofel, gan S4C yn 1982. Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan Pennant Roberts.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://melinbapur.cymru/cy/products/madam-wen-w-d-owen
- ↑ R. Maldwyn Thomas, 'W. D. Owen', Gwŷr Môn (Y Bala, 1979).
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |