Iaith testun
Mae angen dyfyniadau a/neu gyfeiriadau ychwanegol ar ran o'r erthygl hon. Helpwch wella'r erthygl gan ychwanegu ffynonellau dibynadwy. Caiff barn heb ffynonellau ei herio a'i dileu. |
Rhybudd! | Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Mae iaith testun (neu iaith SMS) wedi datblygu oherwydd yr angen i anfon negeseuon testun byrion trwy ffônau symudol. Datblygodd yn y rhan fwyaf o ieithoedd mewn ymateb i anhawster wrth ysgrifennu negeseuon gyda bysellbad ffôn, trwy'r angen i greu negeseuon byrion i arbed amser, ac i greu iaith i'r ifanc neu anodd ei ddeall gan oedolion.
Mewn sawl iaith (fel Saesneg), roedd iaith testun wedi datblygu o ieithoedd artiffisial eraill fel IRC lle oedd byrfoddau fel BRB = Be Right Back (Cymraeg: YOF = Yn Ôl Yn Fuan) ac emoticons (e.e. :-)) wedi dechrau ymddangos, ond roedd iaith testun yn ddatblygiad rhyngwladol trwy'r pwysau i greu negeseuon byrion.
Ers hynny, mae'r pwysau yn lleihau: mae geiriadur awtomatig a bysellfwrdd ffonau clyfar yn galluogi creu negeseuon yn fwy cyflym ac mae'r rhan fwyaf o gytundebau ffonau symudol bellach yn cynnwys llawer o negeseuon testun am ddim. Er hyn, mae iaith testun yn boblogaidd ac yn cael ei ddefnyddio mewn ffurfiau arall fel ebyst, hysbysebion a thrwy fod pobl yn siarad y byrfodd mewn iaith go iawn, weithiau fel gair sengl ac weithiau fel llythrenau unigol e.e. O.F.N. (O fy Nuw), er gwaethaf ffaith ei bod yn aml yn haws dweud y geiriau llawn.
Dull
[golygu | golygu cod]Cwtogi nifer y llythrennau/symbolau
[golygu | golygu cod]I leihau hyd y neges, mae'n gyffredin i hepgor llythrennau heb golli gormod fel na ddeiellir ystyr y neges. Mae'n debyg i golli llawer o'r llafariaid, fel "Be wt t'n wnd hno?" (Beth wyt ti'n wneud heno?).
Defnyddio llythyren yn lle gair
[golygu | golygu cod]Yn Gymraeg, mae "t" yn gallu cael ei ddefnyddio yn lle "ti". Yn Ffrangeg mae "2" yn cael ei ddefnyddio yn lle "tu" (Cymraeg "ti") ac yn Saesneg mae "u" yn cael ei ddefnyddio yn lle "you" (Cymraeg "ti/chi"). Bellach, mae pobl yn defnyddio "fn" yn lle "fi'n", "tn" yn lle "ti'n" a weithiau (gyda'r dylanwadu Saesneg), "vn" yn lle "fi'n".[1]
Byrfoddau
[golygu | golygu cod]- Prif: Byrfodd
Defnyddir byrfoddau mewn iaith ffurfiol ers talwm (er enghraifft "e.e."), ond roedd mwy o fyrfoddau newydd gael eu creu mewn iaith testun. Mae sawl ohonynt yn cael eu creu trwy gyfieithu o fyrfoddau Saesneg, ond mae llawer ohonynt yn cael eu creu mewn dull cyfochrog trwy angen anfon negeseuon tebyg.
Byrfodd | Ymadrodd |
---|---|
CTL | Caru ti lot / llawer / loads |
DYFI | Diolch yn fawr iawnË |
YOF | Yn ôl yn fuan |
Eiconau teimlad
[golygu | golygu cod]Mae'r problem mawr gydag ysgrifennu negeseuon yn methu cyd-destun y neges a chamddeall bwriad yr ysgrifennwr. Crewyd is-gyd-destun mewn ymateb trwy ddefnyddio eiconau teimlad fel :-) "hapus", :-( "drist", <3 "caru", ac ati, i ddangos mwy o ystyr i'r darllenwr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Sgwrs ar iaith testun ar Forum Wales[dolen farw]