Gwasg Gomer
Enghraifft o'r canlynol | gwasg, cyhoeddwr, family business |
---|---|
Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Dechrau/Sefydlu | 1892 |
Rhagflaenwyd gan | Gwasg Aberystwyth |
Perchennog | Teulu Lewis, Gwasg Gomer |
Sylfaenydd | John David Lewis |
Pencadlys | Llandysul |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.gomer.co.uk |
Mae Gwasg Gomer yn gwmni argraffu Cymreig. Ar un adeg roedd yn un o'r cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg mwyaf yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1908 gan yr argraffydd a chyhoeddwr John David Lewis (1859 - 1914), ar sail busnes argraffu a ddechreuwyd ganddo ym 1892 yn Llandysul, Ceredigion; mae'r wasg yn dal i gael ei rhedeg yn y pentref heddiw. Fe'i henwir ar ôl yr awdur Joseph Harris (Gomer) (1773-1825).
Ehangodd y wasg trwy brynu Gwasg Aberystwyth ym 1945. Dros y blynyddoedd mae enw Gwasg Gomer wedi bod yn gysylltiedig â rhai o awduron mwyaf llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys D. J. Williams, T. Llew Jones, T. H. Parry-Williams, Islwyn Ffowc Elis, T. Rowland Hughes, Siân Lewis a Waldo Williams. Un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y wasg yw Sali Mali.
Yn Medi 2019 cyhoeddwyd y byddai cwmni Gomer yn cau eu adran gyhoeddi ond yn parhau gyda'r gwaith argraffu. Roedd hyn yn nodi diwedd 127 mlynedd o gyhoeddi. Dywedodd rheolwr y cwmni, Jonathan Lewis, y byddai'r newid strategol hwn yn sicrhau dyfodol y staff o 55.[1] Yn 2021 cyhoeddwyd bod yr adran gyhoeddi wedi ei werthu i gwmniau Y Lolfa ac Atebol gan gynnwys catalog o dros 2,500 o lyfrau. Prynodd Y Lolfa y catalog o lyfrau i oedolion a rhan fwyaf o'r ffuglen gwreiddiol i blant. Prynodd Atebol yr holl lyfrau plant a chynnwys addysgiadol.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cau adran gyhoeddi Gwasg Gomer yn llwyr , Golwg360, 10 Medi 2019. Cyrchwyd ar 11 Medi 2019.
- ↑ Welsh presses Y Lolfa and Atebol buy Gomer's publishing arm , The Bookseller, 14 Mai 2021. Cyrchwyd ar 18 Rhagfyr 2022.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Gwasg Gomer Archifwyd 2009-07-18 yn y Peiriant Wayback