Cerflun eira ar ffurf person yw dyn eira. Gwneir y dyn eira ystrydebol o dair phelen fawr o eira ar ben ei gilydd, gyda moronen am drwyn, talpiau o lo am lygaid, gwen a botymau, brigynnau am freichiau, a het, sgarff a phib.