Balcanau
Rhanbarth yn ne-ddwyrain Ewrop sy'n cynnwys tiriogaeth gwledydd presennol Gwlad Groeg, Albania, Gogledd Macedonia, Serbia, Montenegro, Bosnia-Hertsegofina, Croatia, Bwlgaria, Rwmania a rhan Ewropeiadd Twrci yw'r Balcanau. Mae ganddo arwynebedd tir o 550,000 km² ac mae tua 55 miliwn o bobl yn byw yno. Yr enw am orynys y Balcanau yn Hen Roeg oedd Gorynys Haemus (Χερσόνησος του Αίμου). Enwir y rhanbarth ar ôl Mynyddoedd y Balcanau, sy'n rhedeg trwy ganol Bwlgaria i mewn i ddwyrain Serbia.
Cefndir hanesyddol
[golygu | golygu cod]Daeth y rhan fwyaf o'r Balcanau yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ac yna'n rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd o'r 5g ymlaen. Daeth y Balcanau dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid o'r 15g hyd y 19g a dechrau'r 20g. Enillodd Gwlad Groeg ei hannibyniaeth yn 1829 ac fe'i dilynwyd gan Serbia (1878), Rwmania (1878), Bwlgaria (1908) ac Albania (1912). Roedd y cystadlu rhwng y pwerau mawr Ewropeaidd am reolaeth ar yr ardal yn un o'r ffactorau pennaf a arweiniodd at y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918). Daeth Iwgoslafia'n wlad ffederal sosialaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac roedd gweddill y gwledydd Balcanaidd (ac eithrio Gwlad Groeg a Thwrci) yn wladwriaethau comiwnyddol hyd cwymp y Llen Haearn a Rhyfeloedd y Balcanau.
Cefndir diwylliannol
[golygu | golygu cod]Mae hunaniaeth y Balcanau yn cael ei ffurfio gan ei lleoliad daearyddol; saif ar groesffordd hanesyddol sydd wedi bod yn dyst i sawl pobl a diwylliannau. Mae wedi bod yn fan cyfarfod i rhannau Lladin a Groeg yr Ymerodraeth Rufeinig ac yn ffin rhyngddynt, yn gyrchfan i fewnlifiad anferth o bobloedd Slaf paganaidd, yn fan cyfarfod Cristnogaeth Orllewinol ac Uniongred, yn ogystal â bod yn fan cyfarfod i Islam a Christnogaeth. Gwelai yn ogystal nifer fawr o ffoaduriaid Iddewig yn ffoi'r Chwil-lys. Mae nifer uchel o Romani yn byw yno hefyd.
Cefndir ieithyddol
[golygu | golygu cod]- Prif: Ieithoedd y Balcanau
Mewn canlyniad i hyn oll mae'r Balcanau heddiw yn rhanbarth o amrywiaeth ethno-ieithyddol sylweddol, ac yn gartref i sawl iaith Slafig, Romáwns, a Twrcaidd, yn ogystal â'r iaith Roeg, Albaneg, ac ieithoedd eraill. Yn y cyfnodau cynhanesyddol ac egin-hanesyddol mae nifer o grwpiau ethnig eraill â'i hieithoedd unigryw eu hunain, wedi byw yn y rhanbarth yn ogystal, yn cynnwys y Celtiaid (e.e. y Galatiaid), yr Ilyriaid, yr Avariaid, y Vlachiaid, y Germaniaid a sawl llwyth Germanaidd arall.
Poblogaeth yn ôl cenedligrwydd a chrefydd
[golygu | golygu cod]Cenedligrwydd a thras
[golygu | golygu cod]Ceir pobl o genedligrwydd amrywiol yn y Balcanu, yn cynnwys (m = miliwn):
- Groegiaid (10.5 m)
- Serbiaid (8.5 m)
- Bwlgariaid (6.6 m)
- Albaniaid (6 m)
- Croatiaid (4.5 m)
- Bosniaid (Bosniacs) (2 m)
- Macedoniaid (1.3 m)
- Montenegroaid (0.4 m)
- Rwmaniaid (22 m)
- Slofeniaid (2 m)
- Twrciaid (10 m)
- eraill (e.e. Romani, ...)
Crefydd
[golygu | golygu cod]Prif grefyddau'r rhanbarth yw Cristnogaeth (Uniongred Dwyreiniol a Chatholig) ac Islam. Ymarferir sawl traddodiad o'r ddwy ffydd, ac mae gan pob un o'r gwledydd Uniongred ei heglwys genedlaethol eu hunain.
Cristnogaeth Uniongred Ddwyreiniol yw pryf grefydd y gwledydd canlynol:
- Bwlgaria (Eglwys Uniongred Bwlgaria)
- Gwlad Groeg (Eglwys Uniongred Groeg)
- Gogledd Macedonia (Eglwys Uniongred Serbia ac Eglwys Uniongred Macedonia)
- Montenegro (Eglwys Uniongred Serbia ac Eglwys Uniongred Montenegro)
- Rwmania (Eglwys Uniongred Rwmania)
- Serbia (Eglwys Uniongred Serbia
Catholigiaeth Rufeinig yw pryf grefydd y gwledydd canlynol:
Islam yw prif grefydd y gwledydd canlynol:
Yn y gwledydd canlynol ceir nifer sylweddol o bobl (dros 10% o'r boblogaeth) sy'n perthyn i grefyddau lleiafrifol:
- Albania: Uniongred Ddwyreiniol, Catholigiaeth.
- Bosnia-Hertsegofina: Mae'r rhan fwyaf o'r Bosniacs yn Fwslimiaid, mae'r Serbiaid yn perthyn i Eglwys Uniongred Serbia a'r Croatiaid yn Gatholigion.
- Bwlgaria: Islam.
- Croatia: Serbiaid Uniongred.
- Gogledd Macedonia: Albaniaid Mwslimaidd.
- Montenegro: Albaniaid a Bosniacs Mwslimaidd.
- Serbia: Albaniaid a Bosniacs Mwslimaidd; Hwngariaid, Slofaciaid a Croatiaid Catholig.
Cyfeiriadau a darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Banac, Ivo. 'Historiography of the Countries of Eastern Europe: Yugoslavia', American Historical Review, v 97 #4 (Hydref 1992), 1084-1104.
- Banac, Ivo. The National Question in Yugoslavia: Origins, History, Politics. Cornell University Press, 1984.
- Carter, Francis W., gol. An Historical Geography of the Balkans. Academic Press, 1977.
- Dvornik, Francis. The Slavs in European History and Civilization. Rutgers University Press, 1962.
- Fine, John V. A., Jr. The Early Medieval Balkans: A Critical Survey from the Sixth to the Late Twelfth Century [1983]; The Late Medieval Balkans: A Critical Survey from the Late Twelfth Century to the Ottoman Conquest. Ann Arbor: University of Michigan Press, [1987].
- Jelavich, Barbara. History of the Balkans, 2 gyf. Cambridge University Press, [1983].
- Jelavich, Charles, a Jelavich, Barbara, gol. The Balkans in Transition: Essays on the Development of Balkan Life and Politics since the Eighteenth Century. University of California Press, 1963.
- Király, Béla K., gol. East Central European Society in the Era of Revolutions, 1775-1856. 1984
- Mazower, Mark, The Balkans: A Short History, 2000
- Traian Stoianovich, Balkan Worlds: The First and Last Europe 1994.