Antonio Larreta
Antonio Larreta | |
---|---|
Ganwyd | Gualberto José Antonio Rodríguez Larreta Ferreira 14 Rhagfyr 1922 Montevideo |
Bu farw | 19 Awst 2015 Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái, Sbaen |
Galwedigaeth | actor, sgriptiwr, dramodydd, llenor, cyfieithydd, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, actor llwyfan, cyfarwyddwr ffilm, adolygydd theatr |
Adnabyddus am | Curro Jiménez |
Gwobr/au | Premio Planeta de Novela, Alas Award, Iris Award, Gwobrau Goya, Premio Bartolomé Hidalgo, Larra Award |
Dramodydd a nofelydd yn yr iaith Sbaeneg, cyfarwyddwr theatr, ac actor o Wrwgwái oedd Antonio "Taco" Larreta (14 Rhagfyr 1922 – 19 Awst 2015).
Ganwyd Gualberto José Antonio Rodríguez Larreta ym Montevideo.[1] Dechreuodd ar ei yrfa yn y theatr fel actor amatur a beirniad. Cyd-sefydlodd y Club de Teatro, a oedd yn perfformio dramâu clasurol. Bu'n teithio a gweithio yn Sbaen, Ffrainc, a'r Eidal, gan gynnwys cyfnod dan hyfforddiant Giorgio Strehler, cyfarwyddwr y Piccolo Teatro ym Milan, yn 1955.[2]
Sefydlodd y Teatro de la Ciudad de Montevideo (TCM) yn 1960, a gyflwynasai nifer o ddramâu o wledydd eraill i Wrwgwái, nifer ohonynt wedi eu cyfieithu, eu haddasu, a'u cyfarwyddo gan Larreta. Un o'i lwyfaniadau nodedig oedd Fuenteovejuna gan Lope de Vega.[3] Aeth gyda'i theatr i Sbaen am dymor ac yno enillodd y Premio Larra am berfformiad o ddrama arall gan Lope de Vega, Porfiar hasta morir.[1] Enillodd Larreta wobr Casa de las Américas yn 1972 am ei ddrama Juan Palmieri, ond cafodd y gwaith hwnnw ei sensora gan yr unbennaeth sifil-filwrol a reolodd Wrwgwái yn y cyfnod 1973–85. Llwyddwyd i berfformio'r ddrama honno yn Buenos Aires, yr Ariannin, yn 1973.[3]
Aeth i Sbaen yn alltud, ac yno ysgrifennodd sgriptiau ar gyfer y gyfres deledu Curro Jimenez (1976–79). Enillodd Wobr Planeta am ei nofel Volavérunt (1980), sy'n seiliedig ar fywyd yr arlunydd Francisco de Goya. Sgriptiodd a chyfarwyddodd Larreta y ffilm Archentaidd Nunca estuve en Viena (1989), a chyd-ysgrifennodd y sgript, yn seiliedig ar nofel gan Arturo Pérez-Reverte, ar gyfer y ffilm El maestro de esgrima (1992). Enillodd Larreta a'i gyd-sgriptwyr, Francisco Prada a Pedro Olea, y Wobr Goya am y Sgript Addasedig Orau am y ffilm honno. Ymhlith sgriptiau eraill Larreta ar gyfer ffilmiau Sbaenaidd mae Los santos inocentes (1984), La casa de Bernarda Alba (1987), a Las cosas del querer (1989).[2]
Dychwelodd i'w famwlad yn sgil cwymp yr unbennaeth, a bu hefyd yn teithio'n ôl i Sbaen yn aml. Sefydlodd y Teatro del Sur ym Montevideo.[3] Bu farw ym Montevideo yn 92 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Sbaeneg) "Muere Antonio Larreta, autor de 'Volavérunt' y creador de la serie Curro Jiménez", El Mundo (20 Awst 2015). Adalwyd ar 2 Mehefin 2019.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Uruguayan writer Antonio “Taco” Larreta dies", The San Diego Union-Tribune (20 Awst 2015). Adalwyd ar 2 Mehefin 2019.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Marina Pianca, "Larreta, Antonio" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 299.
- Actorion theatr o Wrwgwái
- Actorion yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Beirniaid theatr Sbaeneg o Wrwgwái
- Cyfarwyddwyr theatr o Wrwgwái
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Dramodwyr Sbaeneg o Wrwgwái
- Genedigaethau 1922
- Marwolaethau 2015
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Wrwgwái
- Nofelwyr Sbaeneg o Wrwgwái
- Pobl o Montevideo
- Sgriptwyr ffilm o Wrwgwái